Mae’r pontwns ymwelwyr a digwyddiadau wedi eu cynllunio’n benodol ar gyfer digwyddiadau a hyfforddiant gyda phont fynediad a rhodfeydd llydan. Mae hyblygrwydd y baeau agored yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, sioeau ac arddangosfeydd morwrol.
Mae’r pontwns ar gael at ddefnydd cychod ymwelwyr, llynghesau sy’n ymweld, fflyd o gychod morio a digwyddiadau mawr cychod cel.
Mae gan harbwr Pwllheli fynediad 24awr i Fae Ceredigion ac mae’n fan delfrydol i ddechrau crwydro’r ardal ar arfordir. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd gan Bwllheli a’r ardal i gynnig cliciwch yma.
Mae llithfra, pontwn isel a chraenmynediad anabledd yn golygu bod y cyfleuster yn addas ar gyfer hwylwyr ac anableddau, ceufadu, canwio a rhwyfo.
Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth lawnsio cychod – cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Mae pontoons Porth Madryn r gael am gyfnod byr ar gyfer cychod o bob maint o RIBs i gychod cel mawr. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am angori’ch cwch yma dros dro CLICIWCH YMA, llanwch y ffurflen (ymddiheuriadau ei bod yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) a byddwn mewn cysylltiad yn fuan (rhaid dilyn ein termau ac amodau)

Hoffem amlygu:
Cliciwch ar y llun am fersiwn pdf o'r cynllun.
Os hoffech chi rentu gofod ym Mhlas Heli ar gyfer digwyddiad preifat neu gyhoeddus cliciwch yma (ymddiheurwn fod y ffurflen yn Saesneg ar hyn o bryd)
Tides in Pwllheli - to assist with your Cruise or event.
| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill | Bar ac Arlwyo |
Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw
Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Arlwyo a Bar: 01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).
Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.
Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .
Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Cwmni Cofrestredig. Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430