Hanes a Diwylliant
Dilynwch lwybr y pererinion i Ynys Enlli, amsugnwch swyn stori Rhys a Meinir yn Nant Gwrtheyrn neu dysgwch am gefndir morowrol yr ardal. Cloddiwch trwy hanes, diwylliant a thraddodiadau byw yr ardal tra’ch bod yma.
Cestyll
Ar ben bryn uwchben Criccieth mae’r castell yn edrych yn warcheidiol dros y dref. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol gan Llywelyn Fawr a dyma safle gwrthryfel olaf y Cymry yn erbyn y Saeson. Cymrwch eich amser i ymlwybro trwy’r castell, ei borth gyda dau dwr a’r dref glan y môr fywiog.
Castell trawidaol arall sydd werth ymweld ag o yw’r gaer fygythiol yng Nghaernarfon. Defnyddiodd y brenin Edward y 1af yr adeilad mawreddoga’r dref gaerog i ddangos ei awdurdod ar y brodorion. Yn 1969 cynhaliwyd arwisgo’r Tywysog Siarl yn y castell.
Cliciwch ar wefan CADW am fwy o wybodaeth ar gestyll Cymreig cyfagos
Portmeirion
Pentref twristaidd Eidalaidd hudolus wedi ei adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis rhwng 1925 a 1975. Gwnaed Portmeirion yn enwog fel lleoliad y rhaglen gwlt The Prisoner yn 1967.
Heddiw gall ymwelwyr gerdded o amgylch y gerddi a’r penrhyn preifat sydd yn gartref i’r pentref. Mae’r pentref ei hun yn cynnwys tua 50 o adeiladau gan gynnwys bwytai a siopau. Amgylchynir y pentref gan 70 acer o erddi. Canolbwynt pentref Portmeirion yw’r gwesty sydd yn croesawu ymwelwyr dydd am ginio, te a chinio gyda’r nos.
Nant Gwrtheyrn
Mae’r Ganolfan Dreftadaeth yn Nant Gwrtheyrn yn le gwych i ddechrau’ch taith i hanes, chwedloniaeth, diwylliant a thraddodiadau lleol. Wedi ei lleoli mewn hen bentref chwarel ar arfordir gogleddol y penrhyn mae’r ganolfan yn le gwych i gloddio yn hanes a diwylliant Cymru yn ogystal â hanes y pentref a’r chwarel ei hun.
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Draw yn eglwys Santes Fair yn Nefyn mae casglaid unigryw o drugareddau morwrol sy’n adrodd hanes cychod a adeiladwyd yn lleol, hwylwyr lleol a chapteiniaid lleol.
Oriel Plas Glyn y Weddw
Beth am ymweliad ag oriel hynaf Cymru gyda 6 arddangosfa o fewn adeilad cofrestredig a adeiladwyd yn yr 1850au ym mhentref glan y môr Llanbedrog. Yn ogystal â’r arddangosfeydd misol, y gweithdai celf, darlithoedd a ffeiriau crefft mae Plas Glyn y Weddw wedi ail-agor rhwydwaith o lwybrau byr sydd yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.
Gwefan Oriel Plas Glyn y Weddw
Porth y Swnt
Canolfan ddadansoddi newydd yn Aberdaron sy’n defnyddio barddoniaeth a gwaith celf i arwain pawb ar eu taith bersonol trwy hanes, diwylliant ac amgylchedd Llŷn. Mae gan y ganolfan hefyd syniadau pellach am atyniadau a llwybrau lleol.
Gwybodaeth am Porth y Swnt ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg)
Plas yn Rhiw
Ymlwybrwch trwy’r plasty yma o’r 16eg ganrif. Rhyfeddwch at y golygfeydd dros Fae Ceredigion o’r gerddi.
Gwybodaeth am Plas yn Rhiw ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg)
Hanes ar Ochr y Ffordd
Nid oes rhaid i chi ymweld ag amgueddfa, castell nac unrhyw ganolfan i brofi rhywfaint o hanes lleol – mae o o’ch cwmpas ym mhob man. Wrth deithio ar hyd y ffyrdd gwledig cadwch olwg am 8 arwydd ffordd a godwyd yn wreiddiol yn 1903. Mae nhw bellach wedi eu hadfer yn gelfydd ac yn arwain y ffordd i genhedlaeth arall o deithwyr. Mi ddylech hefyd sylwi ar cerrig milltir llechen a charreg gwreiddiol ar hyd ochrau’r ffyrdd – dychmygwch deithio ar hyd y ffyrdd hyn dros ganrif yn ôl!
Antur
Hoffech chi wibio trwy’r awyr uwchben chwarel ar linell zip cyflyma’r byd? Hoffech chi neidio mewn hen ogof chwarel lechi yn y lle chwarael tanddaearol cyntaf o’i math?Beth am geufadu ar ddwr gwyn? Dringo? Arfordiro? Syrffio? Croeso i Galon Antur Cymru!
Cliciwch yma i chwilio am ddarparwyr gweithgareddau lleol ar wefan Croeso Cymru.