Beth hoffech chi wneud gyda’ch amser?
Mynd i’r traeth
O draethau teuluol gyda’r holl gyfleusterau, i’r traeth delfrydol i adeiladu cestyll a chwilio am grancod, i’r traeth gyda’r don berffaith neu’r traeth anghysbell i synfyfyrio’r pnawn gyda llyfr, mae yna draeth yn Llŷn i bawb.
Mynd am Dro
Ar hyd yr Arfordir
Defnyddiwch ran o 84 milltir Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Llŷn i ymlwybro o amgylch y clogwyni a’r cildraethau lleol. Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau cyhoeddus, ffyrdd bach gwledig a thraethau o Gaernarfon ar hyd arfordir gogleddol y penrhyn i Aberdaron cyn dilyn yr arfordir ddeheuol i Borthmadog gan fynd heibio Plas Heli a Marina Hafan Pwllheli ar ei ffordd. Dewisiwch lwybr cylchol byr, cerddwch am ddiwrnod neu beth am gymryd ychydig o ddyddiau i gerdded yr holl ffordd o amgylch Llŷn?
Gwefan Llwybr Arfordir Cymru Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Yn Eryri
Gyda throed yr Wyddfa yn ddim ond 19 milltir i ffwrdd pam ddim lleoli’ch hun yn Llŷn wrth grwydro Eryri? Mae rhywbeth i bawb yn Eryri - gallwch fynd am dro’n hamddenol neu ddringo clogwyni serth. Dringwch i’r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr (sy’n gwbl addas i deuluoedd) neu beth am sialens y 15 copa – dringo i ben 15 mynydd Eryri sydd dros 3,000 troedfedd o uchder ofewn 24 awr!!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am lwybrau yn Eryri:
Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri
Llwybrau Lleol yn Llŷn
Hyd yn oed os mai dim ond awr neu ddwy sydd gennych chi i’w lenwi mae digon o lwybrau i’ch denu allan i droedi tirwedd brydferth Llŷn a darganfod hanes lleol. Yn ogystal â bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) mae llawer o Lŷn ar Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru.
Ceir mwy o wybodaeth am lwybrau byrion a lleol yn Llŷn ar y gwefannau isod:
Gwefan AHNE Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg) Gwefan Llyn Info (yn Saesneg) Gwefan Gymunedol Rhiw