Bwyd blasus, croeso cynnes a golygfeydd anfarwol - mae'r cwbl yma ym Mhlas Heli.
Rydym yn gweini brecwast, cinio, te prynhawn a swper. Ar ddydd Sul byddwn yn gweini Cinio Sul.
Mae ein horiau gweini yn newid yn dymhorol fel bo'r galw, mae'r oriau cyfredol i'w gweld ar waelod y dudalen. Byddem yn argymell cysylltu â ni i neilltuo bwrdd ymlaen llaw ar gyfer prydau nos a Chinio Sul yn enwedig.
Cliciwch ar y linc i weld esiamplau o'n bwydlen.
I archebu'ch bwrdd, cysylltwch gyda ni ar: 01758 613 343, neu 01758 614 442.