- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

LlynCoastalSportivex3001. Faint oed sydd rhaid i mi fod i gymryd rhan?

Mae’n rhaid i bawb fod dros 13 oed.  Rhaid i unrhyw un sy’n iau na 18 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni fydd ceisiadau yn cael eu derbyn gan gystadleuwyr o dan ddeunaw heb fod ffurflen caniatâd rhieni wedi ei gwbwlhau, ei lofnodi a’i ddychwelyd at y trefnwyr (ffurflen ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen cofrestru).

 

2. Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gofrestru ar y we?

Cyn y digwyddiad byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau fydd yn  cynnwys amseroedd cychwyn a gwybodaeth bwysig eraill. Yn y cyfamser cadwch lygad ar ein tudalennau facebook a twitter yn ogystal â gwefan Plas Heli a’r gyfer unrhyw ddiweddariadau.

 

3. Beth sy'n cael ei gynnwys ym mhris y digwyddiad?

  • Toiledau a chawodydd gwryw a benyw
  • Cyfleusterau parcio ym Mhlas Heli
  • Bwyd ar diwedd y ras yn Plas Heli
  • Gorsaf bwyd ar gael yn Clwb Hwylio Aberdaron, a bydd dwr ar gael ar y cwrs
  • Ffotograffiaeth broffesiynol
  • Cymorth mewn argyfwng
  • Medal i orffenwyr
  • Pecyn rhodd wrth gofrestru
  • Llwybr gyda golygfeydd anhygoel

 

4. Pryd mae’r Sportiff ac am faint o’r gloch?

Dydd Sadwrn 8fed o Ebrill 2017.  Byddwn yn cychwyn y beicwyr mewn grwpiau. Grwp cyntaf i ddechrau am 9:00 yn y bore.

 

5. Pwy yw'r Corff Llywodraethu?

Beicio Prydain – am fwy o fanylion ewch i’w gwefan

 

6. Beth yw rheolau’r digwyddiad? 

Nid yw hwn yn ddigwyddiad cystadleuol - sportif ydyw nid ras, ac mae ar ffyrdd agored.  

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o dan Rheolau Sportiff Beicio Prydain, Rydych yn derbyn y rheolau hyn trwy gofrestru i’r digwyddiad.

Mae gwisgo helmed beicio o Safon CE EN1078 yn orfodol i bawb.

Reidiwch yn gyfrifol:

https://www.britishcycling.org.uk/knowledge/skills/sportives-ridesmart/article/izn20151117-Sportives--Ridesmart--How-to-descend---Ridesmart-0

https://www.britishcycling.org.uk/knowledge/skills/sportives-ridesmart/article/izn20151117-Sportives--Ridesmart--How-to-ride-safely-on-the-road---Ridesmart-0

https://www.britishcycling.org.uk/knowledge/skills/sportives-ridesmart/article/izn20151117-Sportives--Ridesmart--Related-How-to-corner---Ridesmart-0

LlynCoastalSportive2Show 

8. Cofrestru ar y penwythnos – pryd a lle?

Bydd modd cofrestru ym Mhlas Heli ar:

  • ddydd Gwenner 7fed Ebrill rhwng 09:00 a 18:00
  • ddydd Sadwrn  y 8fed o Ebrill rhwng  07:00 a 08:30

Annogwn gynifer ohonoch phosibl i gofrestru ar y dydd Gwener i osgoi rhuthro ac i wneud petha’n haws i chi ar y dydd Sadwrn. Mae'n rhaid i bawb gofrestru er mwyn casglu eich pecyn digwyddiad.

Bydd eich pecyn digwyddiad yn cynnwys eich rhif. Yn ogystal, bydd disgwyl i chi allu sicrhau fod gennych feici(au) addas, helmedau (gorfodol), rhifau brys ac ati.

 

9. Ble mae'r lleoliad?

Plas Heli, Glan Y Don , Pwllheli LL53 5YT

10. Alla i ddefnyddio beic mynydd?

Er mai beic ffordd fydd fwyaf addas, gallwch ddefnyddio beic mynydd.

 

11.  Beth ddylwn i ddod efo mi?

ID rhag ofn, bwyd,ffôn symudol, dillad sbâr priodol, pwmp a thiwbiau mewnol sbâr. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich beic a'r offer yn addas i'r ffordd fawr.

 

12. A fydd y llwybr wedi ei arwyddo?

Mi fydd arwyddion a swyddogion allan ar y cwrs yn dangos y ffordd ac unrhyw fannau penodol sydd angen bod yn wyliadwrus ohonynt.

 

13. A oes cyfyngiadau amser i orffen?

Mae'n rhaid i bawb gwblhau'r cwrs o fewn 6 awr i gael safle.

 

14. A fydd unrhyw gymorth meddygol?

Mi fydd Ambiwlans St John’s yn bresennol yn ogystal â swyddogion Cymorth Cyntaf.

 

15. A fydd unrhyw gefnogaeth fecanyddol?

I'w gadarnhau

 

16. Beth sy'n digwydd ar ôl y daith?

Bydd bwyd i bawb sydd yn cymryd rhan ym Mhlas Heli ar y diwedd.

 

20. Beth yw'r polisi ad-daliad?

Hawl y trefnwyr yn unig yw penderfynu ar unrhyw ad-daliad / trosglwyddiadau.

 

21. Lle fedra i aros dros nos?

Ewch i wefan Ymweld ag Eryri am fwy o fanylion.

 

22. Sut fedra i gysylltu efo chi, y trefnydd?

Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach, cysylltwch gyda ni ar:

 

Cofiwch:

  • Fwynhau
  • Gwthio eich hun
  • Dilyn Rheolau'r Ffordd Fawr a bod yn ddiogel
  • Gwisgo helmed

Peidiwch â:

  • Gollwng sbwriel
  • Ymddwyn mewn modd a allai dramgwyddo pobl erail
  • Rhwystro llif traffig
  • Beicio mewn grwpiau mawr yng nghanol y ffordd
  • Beicio ar ochr anghywir y ffordd

 

Drwy gofrestru ar-lein  rydych yn cydnabod y datganiad canlynol:

Datganiad

Yr wyf yn datgan y byddaf yn cadw at y Rheolau Corff Llywodraethol Beicio Prydain, ac fy mod yn ffit i gymryd rhan yn y digwyddiad. Ni fyddaf yn dal trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am unrhyw anaf neu golled. Deallaf fod unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch y digwyddiad yn nwylo y trefnydd sef Plas Heli Cyf.

Facilities at Plas Heli

Prepared for Prize Giving
Main Compound in Use
New tents area in the Main Compound
MainHall Formal Diner
One Outside Prize Giving Option
Entrance to Main Hall
Rce Management Bridge
Prize Giving at RYA UK Youth Championships
Plas Heli Pontoons
Wide access bridge
Plas Heli Pontoons - Main Walkway
Versadock in use

Up Coming Events - Cafe Bar

Next events or activities
1 Mai

Sean Devlin Catering

Dydd Gwener fydd y Caffi/bar ar agor am 12 tan 3 ac wedyn 5 tan hwyr! -
Friday the Cafe/bar is...

Read more

2 Mai

Mae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 9 y hwyr. 
The Cafe/bar is open at 12 until 9pm.

FormalSettingBanner2

Read more

3 Mai

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 6pm Cinio dydd Sul 12-3pm

The Cafe/bar is open at 12 until 6pm -...

Read more

4 Mai

SeanDevlinLogoThe Cafe/bar will be open this Bank Hoilday Monday from 12.00 to 5.00 pm

[hide}Mae'r Caffi Bar ar...

Read more

5 Mai

SeanDevlnAtPlasHeli

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mawrth yma. 
The Cafe Bar is closed this Tuesday.   

 

 

 

Read more

6 Mai

Sean Devlin Catering

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mercher yma. 
The Cafe Bar is closed this  Wednesday.  

 

 

Read more

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430