Rydym yn falch o gyhoeddi fod Plas Heli bellach yn leoliad i gynnal Gwasanaethau Priodasau Sifil, yn dilyn derbyn cadarnhad o'r statws heddiw i gynnal seremoniau o'r fath.

Ble well i ddweud 'Gwnaf' o flaen teulu a ffrindiaui nag gyda mynyddoedd Eryri a Bae Tremadog yn gefnlen i'r cyfan? Gyda thraeth Glan y Don ger llaw, dyma'r lle perffaaith i gynnal eich Priodas a chael lluniau bendigedig i'w mwynhau am ddegawdau i ddod.
Cysylltwch a ni heddiw i drafod eich syniadau ac dyddiadau sydd gennych mewn golwg, a bydd ein staff yn Plas Heli yn falch iawn o'u trafod gyda chi, a'ch cynorthwyo i'w gwireddu.
Gallwch drefnu eich Brecwast Priodas a'ch Partion Nos yn yr un lleoliad hefyd os dymunwch. Gallwn dsrfod pecynnau a phrisiau sydd wedi eu teilwra i'ch anghenion yn ystod trafodaeth anffurfiol gydag aelod o staff.
Ebostiwch rhowch alwad i ni ar 01758 613 343, neu dewch draw i'n gweld i drafod ymhellach.
English (UK)


















Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT