
Mi ddaru Clybiau Awyr Agored Plas Heli drefnu noson agored "Dewch i gwrdd â'r clybiau" ar Dydd Llun 21ain Ionawr. Bwriad y noson oedd rhoi cyfle i bobl gwrdd â chynrychiolwyr o glybiau awyr agored lleol. Roedd hefyd yn gyfle i gael gwybod pryd a lle maent yn cyfarfod, a beth fyddai angen arnoch ar gyfer cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ogystal â chyfle i wirfoddoli neu dod yn aelod. Yn syml cael cipolwg o'r hyn sydd eisoes ar gael ar eich stepan drws chi!!
Yn y dyfodol y gobaith yw y bydd cynrychiolwyr y clybiau yn ffurfio rhan allweddol o'r Academi Hwylio newydd a Chanolfan Ddigwyddiadau.
Dywedodd cydlynydd Grŵp Cymunedol David Hughes "fod y noson yn llwyddiant a rydym yn edrych i drefnu digwyddiad mwy ymarferol awyr agored ym mis Ebrill / Mai 2013 yn debyg i'r digwyddiad Miri Morfa a brofodd yn llwyddiant ysgubol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.Mae'n hanfodol bod pobl lleol yn arbennig yn teimlo perchnogaeth o'r Academi newydd a gwneud defnydd da ohono. Rwy'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn cymryd diddordeb yn yr awyr agored yn enwedig yn awr gyda adnodd gwych fel hyn wrth law".
Os hoffech wybod mwy am y Clybiau gwahanol cliciwch Yma
English (UK) 













Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT