- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

Ar ddydd Sul y Pasg daeth 143 o bobl o bob cwr o Brydain i Ganolfan Hamdden Dwyfor yn blygeiniol i gymryd rhan yn Nhriathlon Pwllheli.

Â’r haul yn gwenu ar Ben Llŷn roedd y gwanwyn yn amlwg wedi cyrraedd gyda theuluoedd a ffrindiau’n gwneud y gorau o’r gwyliau a’r tywydd i gefnogi a bod yn rhan o ysbryd y dydd.  Roedd gofyn i’r cystadleuwyr nofio 400 metr, beicio 20 cilomedr a wedyn rhedeg 5 cilomedr cyn gorffen yn ôl yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor. 

Oliver Blake  o Groesoswallt oedd enillydd ras y dynion ar ei ymweliad cyntaf erioed â Llŷn gydag Arthur Connell o Festhesda yn ail a Gareth Bowyer yn drydydd.   Lindsay Griffiths aeth â hi yn ras y merched gyda Bridget Ripley yn ail a Suzy Cumming yn drydydd.    Eleri Jones oedd y ferch leol gyflymaf ac Emyr Jones y gwr lleol cyflymaf.  Tîm Northcot oedd y tîm buddugol gyda Tri Rhiwen o Gaernarfon a Thîm Clwb Rybgi Caernarfon yn dynn ar eu sodlau.

Dywed Oliver Blake, sy’n cystadlu dros glwb OOTri yng Nghroesoswallt: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych i ddechrau fy nhymor.  Roedd y llwybr beicio yn hyfryd gyda golygfeydd anhygoel – nid fod gen i’r amser i’w mwynhau yn iawn chwaith!  Mae’n ddigwyddiad gwych i athletwyr fel fi sy’n chwilio am amser da neu eisiau cynhesu’r cyhyrau ar ddechrau’r tymor yn ogystal ag i ddechreuwyr.  Mi fydda i yma eto’r flwyddyn nesaf a mwy na thebyg y bydda i’n ôl ar fy ngwyliau cyn hynny os yw’r tywydd fel hyn drwy’r amser!”

Dywed John Lloyd Williams o Gaernarfon a oedd yn rhan o dîm Rhiwen gyda’i fab Owain Llwyd: “Dyma’r tro cyntaf i ni gymryd rhan ac mae’n deimlad mor grêt i wneud rhywbeth fel hyn.  Mae’r lleoliad mor hyfryd mae’n amhosibl peidio mwynhau!”

Dywed David Hughes, Swyddog Datblygu Cymunedol Plas Heli a threfnydd Triathlon Pwllheli: “Mae’n waith caled trefnu digwyddiad fel heddiw ac ni fyddai’n bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr GHJ Civil Engineering, Gwasanaeth Bwyd Harlech, Spar Pwllheli, Iard Gychod Firmhelm, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r holl wirfoddolwyr. Mae’n bleser gweld bod pawb wedi mwynhau ac wedi cael diwrnod da, gan obeithio y cawn ni dywydd cystal ar gyfer Sportif Arfordirol Llŷn ar Fehefin y 7fed.”

Up Coming Events - Cafe Bar

Next events or activities
27 Ebr

SeanDevlinLogo Mae'r Caffi Bar ar gau heddiw. The Cafe Bar is closed today.  


 To Book your Catering Event contact Sean...

Read more

28 Ebr

SeanDevlnAtPlasHeli

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mawrth yma. 
The Cafe Bar is closed this Tuesday.   

 

 

 

Read more

29 Ebr

Sean Devlin Catering

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mercher yma. 
The Cafe Bar is closed this  Wednesday.  

 

 

Read more

30 Ebr

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 3pm ac yna o 6pm tan hwyr.   
The Cafe/bar is open at 12 until 3pm and
...

Read more

1 Mai

Sean Devlin Catering

12 tan hwyr. 12 until late

 

 

Read more

2 Mai

Mae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 9 y hwyr. 
The Cafe/bar is open at 12 until 9pm.

FormalSettingBanner2

Read more

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430