- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

Newyddion Gwych - dyma datganiad i'r wasg gan Cyngor Gwynedd.

Wynne Construction i adeiladu Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli

Mae cwmni o ogledd Cymru wedi cael ei ddewis gan Gyngor Gwynedd i adeiladu Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau eiconig ym Mhwllheli.

Mae’r cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a chwmni Wynne Consturction yn caniatáu i waith ar y safle gychwyn ym mis Ebrill 2014 gyda’r cyfnod adeiladu yn parhau am 12 mis.

Y cytundeb diweddaraf yma yw’r olaf o’r contractau sydd yn gysylltiedig â phrosiect yr Academi Hwylio Cenedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau gwerth £8.3 miliwn, sydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gwaith ffordd eisoes wedi ei gwblhau ac mae gwaith morol ar y gweill ar hyn o bryd oddi fewn i’r harbwr.

Bydd adeilad yr Academi Hwylio Cenedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau yn cynnwys prif neuadd ar gyfer defnydd hwylwyr a’r gymuned leol, ystafelloedd hyfforddiant ac addysgu a chyfleusterau arlwyo, mewn adeilad eiconig i gyd-fynd â lleoliad hwylio o’r radd flaenaf ym Mae Ceredigion.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyd-weithio gyda Wynne Consturcion yn y gorffennol ar sawl prosiect hynod lwyddiannus gan gynnwys prosiect Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb am yr economi:

“Rydym yn hynod falch i weithio gyda chwmni Wynne Construction unwaith eto ar brosiect sylweddol fel hwn.

“Mae gan y cwmni enw arbennig o dda am gyflogi gweithwyr lleol a chefnogi contractwyr lleol, ac rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio gyda nhw i weithredu’r buddion cymunedol sydd wedi’u hymgorffori yn y cytundeb i sicrhau fod y gweithlu lleol a busnesau lleol yn gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad sylweddol hwn yn yr ardal.

“Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect hwn yn dod a buddion economaidd a chymunedol hirdymor i Bwllheli a’r ardal gyfagos.”

Mae’r Academi Hwylio Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli wedi ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Up Coming Events - Cafe Bar

Next events or activities
22 Ebr

Sean Devlin Catering

Mae’r Caffi/bar ar agor am 5pm tan 9pm  noson Jazz.   
The Cafe/bar is open at 5pm until 5pm
 - Jazz...

Read more

23 Ebr

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 3pm ac yna o 6pm tan hwyr.   
The Cafe/bar is open at 12 until 3pm and
...

Read more

24 Ebr

Sean Devlin Catering

12 tan hwyr. 12 until late

 

 

Read more

25 Ebr

Mae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 9 y hwyr. 
The Cafe/bar is open at 12 until 9pm.

FormalSettingBanner2

Read more

26 Ebr

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 6pm Cinio dydd Sul 12-3pm

The Cafe/bar is open at 12 until 6pm -...

Read more

27 Ebr

SeanDevlinLogoMae'r Caffi Bar ar gau ddydd Llun yma. 
The Cafe Bar is closed this Monday.   


 

Read more

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430