Bu'r noson yn llwyddiant mawr drwy gydol gyda nifer yn dod draw o'r clybiau yn ogystal â chynrychiolaeth o Welsh Yachting a 'r Welsh Youth oedd yn paratoi am y cystadlu dros y penwythnos. Hoffem estyn diolch diffuant i Hufenfa De Arfon am y caws gwych, Y Bwtri am y Picl Cymysg a oedd yn gweddu yn wych efo'r caws a Cwrw Llyn am gyflenwi'r cwrw i olchi y cyfan i lawr!! ac yn olaf i Glwb Hwylio Pwllheli am gynnal y digwyddiad. Diolch hefyd i Iestyn Tyne am ein diddanu ni drwy gydol y nos efo'i ffidil.
Cododd y Grŵp Awyr Agored oddeutu £ 400 a fydd yn mynd tuag at y Grant Chwaraeon Cymru i brynu offer er lles y clybiau unigol a'r gymuned leol.
Cymraeg 












