“Yn ystod 2013, mae Clwb Rhwyfo Pwllheli wedi mynd o nerth i nerth. O ganlyniad uniongyrchol i waith y Grŵp Awyr Agored a'r digwyddiad "Miri Morfa", mae ymwybyddiaeth am y clwb ac nifer aelodaeth y clwb wedi tyfu. Er ein bod yn parhau i fod yn clwb gymharol fychan o ran maint, yr ydym wedi rhoi ymdrech galed i mewn i'r tymor rasio ble yr oeddem yn medru mynychu. Cafwyd tymor da iawn, gyda tîm merched ieuenctid yn rasio am y tro cyntaf ers blynyddoedd!
Ar ddiwedd y tymor, daeth criw o Borthmadog heibio i hyfforddi gyda ni a chafwyd cryn dipyn o hwyl yn "rasio" yn erbyn criw arall ac yn edrych i gynnal sesiynau tebyg i'r dyfodol.Edrychwn ymlaen yn awr i rwyfo ar y penwythnosau dros y Gaeaf - a pharatoi am y tymor nesaf!”
Carwyn Jones-Evans, Clwb Rhwyfo Pwllheli